Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


07 ardal Broadmead o Redwick


07 ardal gymeriad ardal Broadmead o Redwick: "tirwedd reolaidd" a grëwyd drwy gau caeau agored drwy ddeddf seneddol. (Ffoto: GGAT Redwick CSmap)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Ceir sôn am Broadmead yn gyntaf yn 1422. Ardal fawr o ddoldir ydoedd, wedi'i rhannu'n lleiniau. Nid oedd y lleiniau hyn wedi'u diffinio gan ffosydd felly fe'i gelwid yn "gae agored". Mae'n debyg bod pobl wedi dechrau cau'r tir bob yn dipyn erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg ar yr ochr ddwyreiniol, ond parhaodd i fod yn ardal agored i raddau helaeth nes i Ddeddf Seneddol gael ei phasio yn 1858; mae'r patrwm presennol o ffyrdd a chaeau at ei gilydd yn dyddio o'r cyfnod hwnnw.

Dôl gymunedol pentref Redwick ydoedd, a cheir cyfeiriadau ati mewn ffynonellau dogfennol di-rif. Roedd yn dal i fodoli yn 1831 pan gafodd ei mapio.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Patrwm caeau rheolaidd o gaeau hirsgwar mawr, nodweddion draenio (ffosydd draenio, cefnennau/draeniau agored, pontydd, sianeli draenio canoloesol), morglawdd, un lôn werdd (coed wedi'u tocio) heb wastraff

Ffin yr ardal i'r gorllewin yw Ffos Elver Pill/Porton (ardal 4), i'r gogledd, Grangefield (ardal 8), i'r dwyrain, Ffos Windmill (ardal 6) a'r arfordir i'r de.

Elfen amlycaf y dirwedd gydryw ac unffurf hon yw'r patrwm o gaeau hirsgwar, mawr gan mwyaf a ddisodlodd y lleiniau agored cynharach. Mae'r unig ffordd, sef Mead Lane, yn lôn werdd unionsyth heb wastraff ymyl ffordd.

Ychydig iawn o nodweddion tirwedd eraill sydd, ond yn eu plith mae rhai pontydd ardderchog ar hyd Mead Lane. I'r gorllewin ac i'r dwyrain mae dwy sianel ddraenio artiffisial bwysig yn dyddio o'r cyfnod canoloesol, sef Ffos Elver Pill a Ffos Windmill. Mae i'r morglawdd tua'r de wyneb o gerrig llanw a mur dychwelyd tonnau sydd wedi'i wneud o goncrid. Mewn ychydig o gaeau gwelir cefnennau, ac ambell afael annatblygedig. At ei gilydd cyfyngir coed wedi'u tocio i wrychoedd gerllaw'r lôn werdd.

O ran y Gwastadeddau, mae hon yn dirwedd brin iawn a grëwyd mewn un cyfnod, ac mae'n cynnwys yr ardal fwyaf o hen gaeau agored a gafodd ei hamgáu drwy ddeddf seneddol. Fel y cyfryw mae'n un o'r ychydig dirweddau y gellir pennu dyddiad pendant ar ei chyfer. Un o'r nodweddion pwysig yw'r ystod gyfyngedig iawn o wahanol nodweddion tirwedd, yn arbennig y ffaith mai caeau hirsgwar mawr a geir gan mwyaf ac nad oes fawr ddim anheddu. Mae ei chyflwr yn dda ar y cyfan. Fodd bynnag, mae dulliau rheoli gwrychoedd yn amrywio'n fawr.

Mae'r dirwedd hon wedi cadw ei chyfanrwydd a'i chydlyniant i raddau helaeth, rhywbeth y gellir ei briodoli i'r ffaith iddi gael ei chreu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dengys hefyd sut y trawsnewidiwyd tirweddau pan gaewyd tir drwy ddeddf seneddol.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk